Cyswlt
Cadeiryddion
Croeso
Croeso cynnes i’r rhwydwaith newydd hwn ar gyfer Cadeiryddion Byrddau yng Nghymru. Mae Byrddau Cymru mewn partneriaeth â GatenbySanderson yn falch iawn o gynnig y lle diogel hwn i Gadeiryddion rwydweithio, cyfnewid mewnwelediadau a gwybodaeth, a thrafod rhai o faterion mwyaf dybryd a chyfoes ein hoes.
Ein bwriad yw cynnal pedwar digwyddiad y flwyddyn, lle gall Cadeiryddion gyfnewid syniadau a safbwyntiau.
Cofrestrwch eich diddordeb i dderbyn diweddariadau rheolaidd ar ein pynciau trafod a digwyddiadau sydd ar ddod.
Dymuniadau gorau,
Dr David Clubb
Sylfaenydd Byrddau Cymru
Mrs Rosemary Baylis-West
Prif Ymgynghorydd ac arweinydd Cymru (Llywodraeth y DU), GatenbySanderson
